RHAN II
CYFARWYDDIADAU PERTHNASOL I BOB ACHOS
|
Ystod
|
|
| 4 |
Mae Paragraffau 5 i 13 yn berthnasol i achosion yng
Nghymru a Lloegr mewn llysoedd ynadon, llysoedd sirol, Llys y Goron, yr Uchel
Lys a’r Llys Apêl (Adran Sifil a Throseddol). Mae paragraff 10
hefyd yn berthnasol i ffurf a threfn cyfeirio i Lys Apêl gan
dribiwnlys. |
|
Codi cwestiwn a yw mater datganoli’n codi
|
|
| 5.1 |
Lle y mae parti i unrhyw ffurf o achos am godi mater
a all fod yn fater datganoli, boed fel cais (neu ran o gais) i orfodi neu i
sefydlu hawl gyfreithiol neu i geisio rhwymedi neu fel amddiffyniad (neu ran o
amddiffyniad), bydd darpariaethau’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yn berthnasol
yn ogystal â’r rheolau trefn sy’n berthnasol i’r achos
y cwyd y mater ohono. |
|
| 5.2 |
Gall llys, ohono’i hun, fynnu bod ystyriaeth yn
cael ei rhoi i’r cwestiwn a yw mater datganoli’n codi, os
yw’r defnyddiau a osodwyd gerbron y llys yn nodi y gall mater o’r
fath godi, hyd yn oed os nad yw’r partïon wedi defnyddio’r
term ‘mater datganoli’. |
|
Penderfyniad gan lys a yw mater datganoli’n codi
|
|
| 6.1 |
Gall y llys roi cyfarwyddiadau y cred eu bod yn addas
i gael eglurhad neu wybodaeth ychwanegol i bennu a yw mater datganoli’n
codi. |
|
| 6.2 |
Wrth bennu a yw mater datganoli’n codi, gall y
llys, beth bynnag fo haeriad parti i’r llys, benderfynu nad yw mater
datganoli’n codi os yw’r haeriad yn ymddangos i’r llys yn
wamal neu’n flinderus (paragraff 2 atodlen 8 DLlC). |
|
| 6.3 |
Os yw’r llys yn penderfynu bod mater
datganoli’n codi rhaid iddo ddatgan yn glir ac yn gryno beth yw’r
mater datganoli. |
|
Rhybudd o fater datganoli i’r Twrnai Cyffredinol ac
i’r Cynulliad
|
|
| 7.1 |
Os yw llys yn penderfynu bod mater datganoli’n
codi yn yr achos, rhaid iddo orchymyn rhybudd mater datganoli o ran sylwedd yn
y ffurflen rhif ‘DI 1’ yn Atodiad 1 i’w rhoi i’r Twrnai
Cyffredinol ac i’r Cynulliad oni bai eu bod eisoes yn barti i’r
achos (paragraff 5(1), atodlen 8 DLlC). |
|
| 7.2 |
Nid oes rhaid i lys sy’n derbyn y cyfeirio
gyhoeddi rhybudd mater datganoli oni bai ei fod yn penderfynu fod mater
datganoli wedi codi na chafodd ei nodi gan y llys sy’n gwneud y cyfeirio.
Yn yr achos hwnnw rhaid i’r llys sy’n derbyn y cyfeirio gyhoeddi
rhybudd mater datganoli. Rhaid i’r rhybudd hwn: |
| | (1)
| nodi pa fater neu faterion datganoli sydd wedi
cael ei gyfeirio neu eu cyfeirio iddo; |
|
| | (2)
| nodi pa fater neu faterion datganoli pellach
sydd wedi codi; a |
|
| | (3)
| nodi’r llys sy’n cyfeirio. |
|
|
| 7.3 |
Os yw’r mater datganoli wedi codi mewn achos
troseddol, rhaid i’r rhybudd mater datganoli nodi: |
| | (1)
| a yw’r achos wedi cael ei ohirio; |
|
| | (2)
| a yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y
ddalfa; ac |
|
| | (3)
| os yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y
ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau, pryd y bydd terfyn amser cadw yn y
ddalfa’n dod i ben.6 |
|
|
| 7.4 |
Os yw’r mater datganoli’n codi mewn
apêl, rhaid i’r rhybudd mater datganoli: |
| | (1)
| nodi bod y mater datganoli’n codi mewn
apêl; |
|
| | (2)
| nodi’r llys yr apelir yn erbyn ei
benderfyniad; a |
|
| | (3)
| nodi a godir y mater datganoli am y tro cyntaf
ar apêl; neu os nad dyna’r sefyllfa, nodi bod y mater datganoli
wedi ei godi yn y llys y mae apêl yn erbyn ei benderfyniad, pa
benderfyniad a wnaed yn y llys hwnnw, a dyddiad y rhybudd blaenorol i’r
Twrnai Cyffredinol ac i’r Cynulliad. |
|
|
| 7.5 |
Bydd y rhybudd mater datganoli’n pennu dyddiad
a fydd yn 14 diwrnod, neu’n gyfnod hwy yn ôl cyfarwyddyd y llys
(gweler isod), ar ôl dyddiad y rhybudd mater datganoli, fel y dyddiad y
bydd rhaid i’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad roi gwybod
i’r llys a ydyw am gymryd rhan fel parti i’r achos, o ran ei
berthynas i fater datganoli. |
|
| 7.6 |
Gall y llys, mewn amgylchiadau eithriadol, nodi
dyddiad hwy na 14 diwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd mater datganoli fel y
dyddiad y bydd rhaid i’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad roi
gwybod i’r llys a ydyw am gymryd rhan fel parti i’r achos. Gall y
llys wneud hyn cyn rhoi’r rhybudd, neu cyn neu ar ôl diwedd y
cyfnod a roddir yn y rhybudd. |
|
| 7.7 |
|
| | (1)
| Ar ddyddiad y rhybudd mater datganoli|
| | (a)
| rhaid i’r rhybudd mater datganoli
i’r Twrnai Cyffredinol gael ei ffacsio ato gan y llys7;
a |
|
| | (b)
| rhaid i’r rhybudd mater datganoli
i’r Cynulliad gael ei ffacsio gan y llys at Gwnsel Cyffredinol y
Cynulliad. |
|
|
| | (2)
| Yr un diwrnod ag yr anfonir ffacs rhaid anfon
copi o’r rhybudd mater datganoli gan y llys gyda phost dosbarth cyntaf at
y Twrnai Cyffredinol ac at Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad. |
|
|
| 7.8 |
Gall y llys, ar delerau yr ystyria’n addas,
orchymyn bod dogfennau ychwanegol yn cael eu cyflwyno (ee mewn achos sifil, y
ffurflen hawlio) neu bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu gyda’r
rhybudd mater datganoli. |
|
| 7.9 |
|
| | (1)
| Pan fo llys yn gorchymyn bod rhybudd mater
datganoli’n cael ei roi gall y llys wneud gorchmynion pellach fel y
gwêl yn dda mewn perthynas â gohirio, atal neu barhau’r
achos, neu fesurau dros dro, yn ystod y cyfnod y mae rhaid i’r Twrnai
Cyffredinol a’r Cynulliad roi gwybod i’r llys a ydynt yn bwriadu
cymryd rhan fel parti i’r achos. |
|
| | (2)
| Cyn gorchymyn gohiriad mewn achos troseddol,
bydd y llys yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys a
fyddai’n golygu gohirio a allai estyn y tu hwnt i derfynau amser cadw yn
y ddalfa os yw’r diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei
brawf wedi dechrau. |
|
|
| 7.10 |
Os nad yw’r Twrnai Cyffredinol na’r
Cynulliad yn rhoi gwybod i’r llys o fewn yr amser penodedig ei fod am
gymryd rhan fel parti i’r achos: |
| | (1)
| dylai’r achos fynd yn ei flaen ar unwaith
ar ddiwedd y cyfnod yr oedd ganddynt i roi gwybod i’r llys; a |
|
| | (2)
| nid oes dyletswydd ar y llys i’w hysbysu
o ganlyniad yr achos ac eithrio’r ddyletswydd i roi gwybod iddynt a
yw’r llys yn penderfynu cyfeirio’r mater datganoli i lys arall
(gweler paragraff 10.3(5)).8 |
|

|
Ychwanegu’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad at
yr achos a’u hawl i fynnu cyfeirio mater datganoli i’r Pwyllgor
Barnwrol
|
|
| 8.1 |
Os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r
Cynulliad am gymryd rhan fel parti i’r achos cyhyd ag y bo’n
ymwneud â mater datganoli, rhaid iddo anfon i’r llys ac at y
partïon eraill (ac at ei gilydd os un ohonynt yn unig sydd wedi dod yn
barti) rybudd o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd ‘DI 2’ a
ddangosir yn Atodiad 1 o fewn yr amser a nodir yn y rhybudd mater
datganoli. |
|
| 8.2 |
Wrth dderbyn y ffurflen hon gall y llys roi
cyfarwyddiadau dilynol fel y gwêl yn angenrheidiol. |
|
| 8.3 |
Os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r
Cynulliad yn barti i’r achos, ac os yw’r naill neu’r llall
ohonynt am fynnu bod y llys yn cyfeirio’r mater datganoli i’r
Pwyllgor Barnwrol, rhaid iddo cyn gynted ag y bo’n ymarferol anfon
rhybudd o ran sylwedd yn y ffurflen a rifwyd ‘DI 3’ yn Atodiad 1
i’r llys ac at y partïon eraill (ac at ei gilydd os un ohonynt yn
unig sydd wedi dod yn barti). |
|
Penderfyniad gan y llys ar gyfeirio mater datganoli ai peidio
os nad yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad yn mynnu
cyfeirio
|
|
| 9.1 |
Os nad oes gofyn i’r llys gyfeirio’r
mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol, bydd y llys yn penderfynu a ddylai
gyfeirio’r mater datganoli i’r llys perthnasol fel y nodir ym
mharagraff 3.4. |
|
| 9.2 |
Cyn penderfynu a ddylid cyfeirio, gall y llys gynnal
gwrandawiad cyfarwyddo neu roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar wneud
argymhellion ynglyn â chyfeirio neu beidio. |
|
| 9.3 |
Gall y llys benderfynu ar sail argymhellion
ysgrifenedig os yw ei drefniadaeth yn caniatáu hyn ac os yw’n
dymuno gwneud hyn, neu gall y llys gynnal gwrandawiad cyn penderfynu. |
|
| 9.4 |
Wrth ddefnyddio’i ddisgresiwn a ydyw am
gyfeirio, bydd y llys yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol ac yn
enwedig: |
| | (1)
| pwysigrwydd y mater datganoli i’r cyhoedd
yn gyffredinol; |
|
| | (2)
| pwysigrwydd y mater datganoli i bartïon
gwreiddiol yr achos; |
|
| | (3)
| a fyddai penderfyniad ar gyfeirio’r mater
datganoli yn dyngedfennol yn y materion o anghydfod rhwng y
partïon; |
|
| | (4)
| a yw’r holl ganfyddiadau ffeithiol
perthnasol wedi eu gwneud (ni fydd mater datganoli, oni bai bod amgylchiadau
eithriadol, yn addas i’w gyfeirio os oes rhaid iddo gael ei gyfeirio ar
sail ffeithiau tybiedig); |
|
| | (5)
| y gohirio y byddai cyfeirio’n ei olygu yn
enwedig mewn achosion sy’n cynnwys plant ac achosion troseddol (gan
gynnwys a yw’r cyfeirio’n debyg o olygu gohirio a fyddai’n
estyn y tu hwnt i ddiwedd y terfynau amser ar gadw yn y ddalfa os yw’r
diffynnydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac os nad yw ei brawf wedi dechrau);
a |
|
| | (6)
| costau ychwanegol y gallai cyfeirio eu golygu.9 |
|
|
| 9.5 |
Dylai’r llys nodi ei resymau dros wneud neu
wrthod cyfeirio. |
|
| 9.6 |
Os yw’r llys yn penderfynu peidio â
chyfeirio’r achos, bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer trin yr achos yn
y dyfodol, a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar y rhan a gymer y Twrnai
Cyffredinol a’r Cynulliad os ydynt yn bartïon. |

|
Ffurflen a threfn cyfeirio
|
|
| 10.1 |
Os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r
Cynulliad yn mynnu bod y llys neu’r tribiwnlys (mewn perthynas ag unrhyw
achos gerbron y llys y mae’n barti iddo) yn cyfeirio’r mater
datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol: |
| | (1)
| bydd y llys neu’r tribiwnlys yn gwneud y
cyfeirio cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn y rhybudd oddi
wrth y Twrnai Cyffredinol neu’r Cynulliad o ran sylwedd yn y ffurflen a
rifwyd ‘DI 3’ a ddangosir yn Atodiad 1, ac yn dilyn y drefn ar
gyfer cyfeirio yng Ngorchymyn Rheolau’r Pwyllgor Barnwrol (Materion
Datganoli) 1999; a |
|
| | (2)
| gall y llys neu’r tribiwnlys orchymyn y
partïon, neu unrhyw un ohonynt, i lunio’r cyfeirio. |
|
|
| 10.2 |
Os yw’r Llys Apêl yn penderfynu
cyfeirio’r mater datganoli i’r Pwyllgor Barnwrol: |
| | (1)
| bydd yn dilyn y drefn yng Ngorchymyn
Rheolau’r Pwyllgor Barnwrol (Materion Datganoli) 1999; a |
|
| | (2)
| gall y llys orchymyn y partïon, neu unrhyw
un ohonynt, i lunio’r cyfeirio. |
|
|
| 10.3 |
Os yw unrhyw lys neu dribiwnlys arall yn penderfynu
cyfeirio’r mater datganoli i unrhyw lys arall, neu os mynnir bod
tribiwnlys yn gwneud hynny: |
| | (1)
| rhaid i’r cyfeirio fod o ran sylwedd yn y
ffurflen a rifwyd ‘DI 4’ a ddangosir yn Atodiad 1 a rhaid iddo
nodi’r canlynol:|
| | (a)
| y cwestiwn a gyfeirir; |
|
| | (b)
| cyfeiriadau’r partïon, ac
eithrio mewn achosion teulu -- gweler paragraffau 15.2–4; |
|
| | (c)
| datganiad cryno o gefndir y mater gan
gynnwys –|
| | (i)
| ffeithiau’r achos, gan
gynnwys unrhyw ganfyddiadau ffeithiol perthnasol gan y llys cyfeirio
neu’r llysoedd is; a |
|
| | (ii)
| y prif bynciau yn yr achos a
haeriadau’r partïon yngln â hwy; |
|
|
| | (ch)
| y gyfraith berthnasol, gan gynnwys
darpariaethau perthnasol DLlC; |
|
| | (d)
| y rhesymau pam caiff ateb i’r
cwestiwn ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn gwaredu’r achos; |
|
|
| | (2)
| bydd pob dyfarniad a roddwyd eisoes yn yr achos
yn cael ei atodi i’r cyfeirio; |
|
| | (3)
| gall y llys orchymyn y partïon, neu unrhyw
un ohonynt, i lunio’r cyfeirio; |
|
| | (4)
| bydd y llys neu’r tribiwnlys yn
trosglwyddo’r cyfeirio i:|
| | (a)
| Cofrestrfa’r Swyddfa Apeliadau
Sifil os yw’r cyfeirio i’r Llys Apêl oddi wrth lys sirol, yr
Uchel Lys neu Lys y Goron mewn achos sifil, neu oddi wrth dribiwnlys; |
|
| | (b)
| Y Cofrestrydd Apeliadau Troseddol os
yw’r cyfeirio i’r Llys Apêl oddi wrth Lys y Goron mewn achos
ar dditiad; a |
|
| | (c)
| Swyddfa’r Llys Gweinyddol os
yw’r cyfeirio i’r Uchel Lys o lys ynadon mewn achos sifil neu
ddiannod neu oddi wrth Lys y Goron mewn achos diannod10. |
Os caiff y cyfeirio ei drosglwyddo i Gaerdydd
rhaid ffeilio copi ychwanegol o’r cyfeirio fel y gellir ei gadw gan
Swyddfa Caerdydd. Caiff y cyfeirio gwreiddiol ei anfon i Swyddfa’r Llys
Gweinyddol yn Llundain. |
|
| | (5)
| yr un pryd ag y caiff y cyfeirio ei drosglwyddo
i’r llys sy’n derbyn y cyfeirio anfonir copi o’r cyfeirio
gyda’r post dosbarth cyntaf at:
|
| | (b)
| y Twrnai Cyffredinol os nad yw ef eisoes
yn barti; a |
|
| | (c)
| y Cynulliad os nad yw eisoes yn
barti; |
|
|
| | (6)
| rhaid i bob un y cyflwynir copi o’r
cyfeirio iddo roi gwybod i’r llys y trosglwyddir y cyfeirio iddo ac i
eraill y cyflwynir y cyfeirio iddynt, o fewn 21 diwrnod, a ydynt am gael eu
clywed ar y cyfeirio; |
|
| | (7)
| bydd y llys sy’n derbyn y cyfeirio (naill
ai’r Llys Apêl neu’r Uchel Lys) yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut
y trafodir y cyfeirio, gan gynnwys cyflwyno argymhellion neu ddadleuon sgerbwd;
a throsglwyddo copi o’r penderfyniad ar y cyfeirio i’r llys
cyfeirio; a |
|
| | (8)
| os ceir apêl i’r Pwyllgor Barnwrol
yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl ar gyfeirio, ac
os oes copi o benderfyniad y Pwyllgor Barnwrol ar yr apêl honno wedi ei
anfon i’r Uchel Lys neu i’r Llys Apêl (fel y bo’n
briodol), bydd y llys hwnnw’n anfon copi i’r llys a gyfeiriodd y
mater datganoli iddo. |
|
|
| 10.4 |
Pan fo llys yn derbyn hysbysiad o benderfyniad ar
gyfeirio, bydd yn penderfynu ar sut i fwrw ymlaen â gweddill yr
achos. |

|
P?er llys i ddelio ag achos yn yr arfaeth os gwneir cyfeirio
(naill ai gan y Twrnai Cyffredinol, y Cynulliad neu’r llys)
|
|
| 11 |
Os gwneir cyfeirio bydd y llys yn gohirio neu’n
atal yr achos lle y cododd y mater datganoli, oni bai ei fod yn gorchymyn fel
arall; a bydd yn gwneud gorchmynion pellach fel y gwêl yn dda mewn
perthynas ag unrhyw ohirio neu atal. |
|
Yr iaith Gymraeg
|
|
| 12.1 |
Os yw unrhyw barti’n dymuno cynnig haeriad
ynglyn â mater datganoli sy’n cynnwys cymharu testunau Cymraeg a
Saesneg unrhyw ddeddfwriaeth eilradd o eiddo’r Cynulliad, rhaid i’r
parti hwnnw roi rhybudd i’r llys cyn gynted ag y bo modd. |
|
| 12.2 |
Wrth dderbyn yr hysbysiad, bydd y llys yn ystyried y
dull priodol o benderfynu’r mater, gan gynnwys, os oes angen, benodi
asesydd barnwrol Cymraeg i gynorthwyo’r llys. |
|
| 12.3 |
Rhaid i bartïon i unrhyw achos lle y caiff y
Gymraeg o bosib ei defnyddio hefyd gydymffurfio â Chyfarwyddyd Ymarfer 16
Hydref 1998 (yn ymwneud ag achosion yn Llys y Goron) a Chyfarwyddyd Ymarfer 26
Ebrill 1999 (yn ymwneud ag achosion sifil). Mae’r Cyfarwyddiadau Ymarfer
hyn yn berthnasol, fel y bo’n briodol, i achosion yn ymwneud â
mater datganoli lle y bydd y Gymraeg o bosib yn cael ei defnyddio. |
|
Deddf Achosion y Goron 1947 (Adran 19)
|
|
| 13 |
Lle y mae llys wedi penderfynu bod achos
datganoli’n codi, bydd y Twrnai Cyffredinol yn rhoi unrhyw gydsyniad
angenrheidiol i: |
| | (1)
| drosglwyddo’r achos i’r Llysoedd
Barn, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3PG, neu i gofrestrfa ranbarthol arall a
gaiff (yn eithriadol) ei chyfarwyddo gan y llys; a |
|
| | (2)
| gynnal yr achos yng Nghaerdydd neu mewn
lleoliad prawf arall a gaiff (yn eithriadol) ei chyfarwyddo gan y llys. |
|
ATODIAD 1
DI 1
MATERION DATGANOLI
Rhybudd Mater Datganoli i’r Twrnai Cyffredinol ac i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru
[ENW’R ACHOS]
Bydded hysbys fod yr achos a grybwyllir uchod wedi codi mater
datganoli fel y’i diffiniwyd gan Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
Rhoddir manylion y mater datganoli yn yr atodlen a atodir.
Mae’r rhybudd hwn yn diwallu gofynion rhybuddio o dan
baragraff 5(1) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellwch gymryd rhan fel
parti i’r achos hwn, cyhyd ag y bo’n ymwneud â mater
datganoli (paragraff 5(2) Atodlen 8). Os ydych am wneud hyn rhaid i chi roi
gwybod i’r llys trwy gwblhau’r ffurflen atodedig, a’i
dychwelyd i’r llys yn [cyfeiriad ] erbyn [ dyddiad ].
DYDDIAD
At:
Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Partïon eraill (lle y bo’n
addas)
DI 2
MATERION DATGANOLI
Rhybudd o fwriad y Twrnai Cyffredinol neu Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i ddod yn barti i achos, cyhyd ag y bo’n berthnasol i fater
datganoli, o dan Baragraff 5(2) Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Yn [enw’r llys]
[enw’r achos]
Bydded hysbys fod y [Twrnai Cyffredinol ] [ Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ] yn bwriadu cymryd rhan fel parti i’r achos, cyhyd ag
y bo’n ymwneud â mater datganoli fel a ganiateir gan baragraff 5(2)
Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 mewn perthynas â’r mater
datganoli a godwyd gan [ ], y derbyniwyd rhybudd ohono gan y [ Twrnai
Cyffredinol ] [ Cynulliad ] ar [ ].
[Mae’r [ ] hefyd yn ei gwneud yn hysbys ei fod [yn mynnu
bod y mater yn cael ei gyfeirio i ] [ yn dal i ystyried a ddylai fynnu bod y
mater yn cael ei gyfeirio i ] Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor o dan baragraff
30 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. ]
[DYDDIAD]
Ar ran y [Twrnai Cyffredinol] [ Cynulliad Cenedlaethol
Cymru]
At:
Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Partïon eraill (lle y bo’n
addas)
DI 3
MATERION DATGANOLI
Rhybudd gan y Twrnai Cyffredinol neu Gynulliad Cenedlaethol
Cymru eu bod yn mynnu bod y mater datganoli’n cael ei gyfeirio i Bwyllgor
Barnwrol y Cyfrin Gyngor
Yn y [llys]
[enw’r achos]
Mae’r [Twrnai Cyffredinol] [Cynulliad Cenedlaethol Cymru]
yn ei gwneud yn hysbys fod rhaid cyfeirio’r mater datganoli, a godwyd yn
yr achos uchod y mae’n barti iddo, gael ei gyfeirio i Bwyllgor Barnwrol y
Cyfrin Gyngor o dan baragraff 30 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
[DYDDIAD]
Ar ran y [Twrnai Cyffredinol] [ Cynulliad Cenedlaethol
Cymru]
At:
Y Twrnai Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Partïon eraill (lle y bo’n
addas)
DI 4
MATERION DATGANOLI
Cyfeirio mater datganoli gan y llys neu dribiwnlys i [Uchel Lys]
[Lys Apêl] [Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor]
Yn y [llys]
[enw’r achos]
Gorchmynnir cyfeirio’r mater(ion) datganoli a nodir yn yr
atodlen [ i’r Uchel Lys] [ i’r Llys Apêl] [i Bwyllgor
Barnwrol y Cyfrin Gyngor] i’w benderfynu yn unol â pharagraff [ ]
Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
Gorchmynnir ymhellach fod yr achos yn cael ei ohirio nes bod
[yr Uchel Lys] [y Llys Apêl] [Pwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor] yn
penderfynu ar y mater[ion] datganoli neu nes gorchymyn pellach.
DYDDIAD
Barnwr/clerc y llys ynadon
Cadeirydd y Tribiwnlys
[Cyfeiriad]
CYFEIRIO SGERBWD I’W ATODI WRTH FFURFLEN
DI 4
Yn y [llys ]
[enw’r achos]
|
| | (a)
| [Y cwestiwn a gyfeiriwyd.] |
|
| | (b)
| [Cyfeiriadau’r partïon] |
|
| | (c)
| [Datganiad cryno o gefndir y materion gan gynnwys
–|
| | (i)
| Ffeithiau’r achos gan gynnwys unrhyw
ganfyddiadau o ffaith gan y llys cyfeirio neu lysoedd is; a |
|
| | (ii)
| Y prif bynciau yn yr achos a
haeriadau’r partïon ynglyn â hwy;] |
|
|
| | (ch)
| [Y ddeddf berthnasol gan gynnwys darpariaethau
perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 1998] |
|
| | (d)
| [Y rhesymau pam ystyrir bod ateb i’r cwestiwn
yn angenrheidiol ar gyfer dibenion gwaredu’r achos.] |
[Caiff yr hol ddyfarniadau a roddwyd
eisoes yn yr achos eu hatodi wrth y cyfeirio hwn.] |